Sut i lenwi’r ffurflen
Dyma siart achau tair cenhedlaeth. Cofnodwch eich e-gyfeiriad yn y blwch gyntaf, yna nodwch yr wybodaeth canlynol yn y blychau ach:
CYFENW, Enw Bedydd G: Dyddiad Lle P: Dyddiad Lle M: Dyddiad Lle |
JONES, John G: tua 1850, Merthyr P: 2 Ion 1870 Swyddfa Cof Pontypridd M: Anhysbys |
Cewch osod eich manylion personol ym mlwch y Gwreiddyn, neu fanylion am unrhyw un o’ch hynafiaid. Peidiwch â chofnodi manylion pobl ifanc (o dan 16 mlwydd oed) Peidiwch â chofnodi manylion pobl sydd dal ar dir y byw heb, yn gyntaf, ceisio eu caniatâd.
Cofiwch ddefnyddio enwau MORWYNOL merched. Os nad yw’r enw morwynol yn hysbys cofnodwch yr enwau naill ai ar ffurf [ANHYSBYS, Mair] neu ar ffurf [ (JONES), Mrs Mary].
Yn achos genedigaethau tu allan i briodas cewch gofnodi [plentyn siawns]ar ôl enw’r unigolyn neu [di-briod] ym mlwch rhiant.
Mae croeso i chi ddanfon faint a mynych o siartiau achau sy’n dechrau efo Gwreiddyn gwahanol, ond mae’n RHAID i bob siart cynnwys manylion am O LEIAF UN unigolyn a ganwyd neu a briododd neu a fu farw yn Sir Forgannwg